Croesawu’r weledigaeth ar gyfer chwaraeon yng Nghymru
Strategaeth Newydd Chwaraeon Cymru
Adran 01 – Gweledigaeth ar gyfer chwaraeon
Gweledigaeth ar gyfer chwaraeon yng Nghymru
Cefndir
Cafodd y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon ei chreu ar ôl sgwrs genedlaethol fywiog gyda phobl ym mhob rhan o’r wlad. Mynediad yma.
Cenedl actif
Y weledigaeth yw creu cenedl actif. Rydyn ni eisiau i gymaint o bobl â phosib gael eu hysbrydoli i fod yn actif drwy chwaraeon.
Pawb
Mae’r weledigaeth ar gyfer pawb. O bobl sydd ddim yn gweld eu hunain yn hoff o chwaraeon i bobl sy’n ennill medalau.
Am Oes
Mae’r weledigaeth am oes. Mae’n ymateb i anghenion pobl yng ngwahanol gamau eu bywyd.
Mwynhad
Mae’r weledigaeth yn canolbwyntio ar greu amrywiaeth eang o brofiadau positif fel bod pawb yn gallu mwynhau chwaraeon.
Adran 02 - Gweledigaeth ar gyfer chwaraeon
Chwaraeon...
Os ydych chi’n Cymryd Rhan, Cefnogi, Cyflwyno neu Llwyddo, dyma beth ddwedoch chi y mae e’n ei olygu i chi:
Adran 03 – Manteision chwaraeon
Beth rydyn
ni’n ei wybod
am fanteision
Chwaraeon
Swipe Right
Adran 04 – Ein huchelgais
Ein huchelgais
Sefydliad arloesol sy’n galluogi i chwaraeon yng Nghymru ffynnu. Pryd bynnag, ble bynnag, sut bynnag ac am oes.
Rhagoriaeth mewn chwaraeon
Yn aml rydyn ni’n clywed bod chwaraeon wedi gwella lles, hunanhyder a chymhelliant pobl; bod chwaraeon wedi dysgu sgiliau i bobl fel eu bod yn gallu cyflawni eu potensial a chyrraedd eu nodau; bod chwaraeon wedi uno cymunedau ac wedi hybu Cymru i’r byd drwy ragoriaeth ar lwyfan y byd.
Effaith bositif
Mae digon o dystiolaeth i gymeradwyo’r effaith bositif mae cymryd rhan yn ei chael ar ein bywydau ni – wrth gymryd rhan, cefnogi, cyflwyno neu llwyddo – ac mae pobl ysbrydoledig yn gweithio’n ddiflino ledled Cymru er mwyn creu cenedl actif. Dyma pam rydyn ni’n angerddol am ein gwaith a’r bobl rydyn ni’n gweithio â nhw.
Esblygu’n gyson
Mae’r byd rydyn ni’n byw ynddo’n esblygu’n gyson ac er mwyn i chwaraeon barhau i fod yn berthnasol i bobl yng Nghymru, rhaid i ni addasu ein dull o weithredu i’r newidiadau. Fedrwn ni ddim dal ati i wneud yr un peth a disgwyl i bobl ddal ati i weld gwerth mewn chwaraeon. Rhaid i ni arloesi a bod yn ddewr. Rhaid i ni oresgyn rhwystrau ymddangosiadol a gwirioneddol fel bod chwaraeon a byw bywyd actif yn ddewis hygyrch i bawb. Rhaid i ni herio ein hunain i feddwl ac ymddwyn yn wahanol.
Credu mewn newid
Yn Chwaraeon Cymru rydyn ni’n credu mewn newid, rydyn ni’n credu yn ein partneriaid, rydyn ni’n credu ym mhŵer chwaraeon ac rydyn ni’n barod i waeddu am hyn.
Byddwn yn addasu ein diwylliant, yn cadarnhau ein cred ac yn cymell ein hased mwyaf: Pobl.
Adran 06 - Ein Dull o Weithredu
Ein Dull o Weithredu
Slide right
Adran 07 – Ein haddewid
Byddwn yn:
Dysgu gyda'n gilydd
Archwilio, profi ac adolygu’n gyson.
Cyflawni gyda'n gilydd
Rhannu canlyniadau. Meithrin perthnasoedd agored a gonest. Darparu adborth cadarn. Gwella perfformiad yn gyson.
Dathlu gyda'n gilydd
Cydnabod ein llwyddiannau ar y cyd drwy bartneriaid effeithiol.
Drwy:
Gweithredu'n ddidwyll
Deall a pharchu diwylliant a gwerthoedd ein gilydd. Hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Ychwanegu gwerth
Sicrhau’r gymysgedd orau posib o gefnogaeth, her, buddsoddiad, sgiliau ac arbenigedd i gyflawni ein canlyniadau cyffredin.
Annog arloesi
Croesawu syniadau a dulliau newydd a chefnogi uchelgais a meddwl yn ffres. Dim ofn teimlo’n anghyfforddus.
Adran 08 – Gweithio mewn partneriaeth
Cysylltu -
Gweithio mewn
partneriaeth
Rydyn ni’n cydnabod yn llawn ac yn gweld gwerth yn y rhwydwaith cadarn a bywiog o bobl a phartneriaid ledled Cymru sydd eisoes yn creu dulliau arloesol o gyflwyno chwaraeon.
Dysgu gyda’n gilydd
Mae gennym ni gyfle cyffrous yn awr i wella a chynyddu’r partneriaethau hyn, dysgu gyda’n gilydd a chanolbwyntio ein hymdrechion ar y cyd i sicrhau’r effaith orau posib.
Partneriaethau sy’n esblygu
Er mwyn galluogi i chwaraeon ffynnu a chreu cenedl gwbl actif, bydd ein dull ni o ddatblygu partneriaethau’n esblygu fel ein bod yn gallu ymateb gyda’n gilydd i anghenion a chymhelliant amrywiol pobl a chymunedau.
Cyfleoedd i gydweithio
Byddwn yn gwahodd sgyrsiau ac yn cefnogi cyfleoedd cydweithredu didwyll. Byddwn yn gweithio i gysylltu a chefnogi rhwydwaith llawer ehangach a mwy amrywiol o sefydliadau, fel ein bod ni, gyda’n gilydd, yn galluogi pawb i fwynhau holl fanteision positif chwaraeon. Pryd bynnag, sut bynnag ac am oes.
Pwrpas cyffredin
Y sbardun allweddol i’n gwaith ni gyda phob partner fydd datblygu pwrpas cyffredin y cytunir arno sy’n cyd-fynd â’n Gweledigaeth ar gyfer Chwaraeon. Mae ein dull ni o weithredu’n amlinellu beth gall bob partner ei ddisgwyl wrth weithio gyda ni. Rydyn ni’n cydnabod y bydd pob partner yn gwneud ei gyfraniad unigryw ei hun ac y bydd gan bob partner wahanol anghenion, a byddwn yn cytuno ar becyn arbennig o gefnogaeth i ddiwallu’r anghenion hynny.
01
Er mwyn i chwaraeon ffynnu bydd rhaid i ni fuddsoddi adnoddau’n wahanol.
Byddwn yn dod â’n hadnoddau ar y cyd at ei gilydd ac yn adnabod cyfleoedd i gryfhau partneriaethau. Byddwn yn gweithio ar y cyd i ddatblygu model adnoddau hyblyg. Bydd hyn yn galluogi i ni ddiwallu anghenion amrywiol partneriaid ac ymateb yn gyflym i heriau newydd.
Byddwn yn defnyddio ein holl adnoddau – buddsoddiad, gwasanaethau a phobl – yn ystyrlon, yn gyfrifol a gyda’r budd gorau posib, gan gadw at yr egwyddorion canlynol:
02
Atal
Cymell gweithredu positif i annog gweithgarwch corfforol rheolaidd ar gyfer pawb, gan gyfrannu at genedl iach, actif, mwy cyfartal a llwyddiannus.
Tymor hir
Annog meddwl, arloesi a risg a reolir yn y dyfodol. Sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr a thymor hir.
Integredig
Partneriaid yn dangos tystiolaeth o effaith a manteision ehangach chwaraeon.
Cydweithredu
Annog gwaith partneriaeth a defnyddio adnoddau ar y cyd.
Cynnwys
Cynnwys amrywiaeth o bobl yn y gwaith o gynllunio a datblygu gwaith.
03
Investment Priority Areas
04
EIN STRATEGAETH ADNODDAU
Adran 10 – Bwriad strategol
Bwriadau
a chanlyniadau
strategol
Gan groesawu’r egwyddor o integreiddio, rydyn ni wedi datblygu pob un o’n bwriadau strategol gyda chanlyniadau clir. Mae’r canlyniadau sefydliadol hyn, a fydd yn gweithredu fel ein hamcanion llesiant, yn dangos beth allwch chi ddisgwyl ei weld o ganlyniad i’n gwaith ni ar y cyd.
Darllenwch Fframwaith Canlyniadau Chwaraeon Cymru yma.
Adran 11 – Gweithio mewn partneriaeth
Nodau llesiant
cenedlaethau’r
dyfodol
Mae ein huchelgais yn cael ei bennu gan y nodau canlynol ar y cyd. Gyda’n gilydd byddwn yn cyfrannu at: