Croesawu’r weledigaeth
ar gyfer
chwaraeon yng Nghymru

Strategaeth Newydd Chwaraeon Cymru

Adran 01 – Gweledigaeth ar gyfer chwaraeon

Gweledigaeth ar gyfer chwaraeon yng Nghymru

Cefndir

Cafodd y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon ei chreu ar ôl sgwrs genedlaethol fywiog gyda phobl ym mhob rhan o’r wlad. Mynediad yma.

Gweledigaeth a chenhadaeth Nod
Prif

Gweledigaeth ar y cyd:

Cenedl actif lle gall pawb fwynhau chwaraeon am oes.

Prif

Cenhadaeth ar y cyd:

Datgloi manteision chwaraeon i bawb.

Cenedl actif

Y weledigaeth yw creu cenedl actif. Rydyn ni eisiau i gymaint o bobl â phosib gael eu hysbrydoli i fod yn actif drwy chwaraeon.

Pawb

Mae’r weledigaeth ar gyfer pawb. O bobl sydd ddim yn gweld eu hunain yn hoff o chwaraeon i bobl sy’n ennill medalau.

Am Oes

Mae’r weledigaeth am oes. Mae’n ymateb i anghenion pobl yng ngwahanol gamau eu bywyd.

Mwynhad

Mae’r weledigaeth yn canolbwyntio ar greu amrywiaeth eang o brofiadau positif fel bod pawb yn gallu mwynhau chwaraeon.

Prif
Prif
Prif
Prif
Prif
Prif
Prif
Prif
Prif
Prif
Prif
Prif
Prif
Prif
Prif
Prif
Prif
Prif

Adran 02 - Gweledigaeth ar gyfer chwaraeon

Chwaraeon...

Os ydych chi’n Cymryd Rhan, Cefnogi, Cyflwyno neu Llwyddo, dyma beth ddwedoch chi y mae e’n ei olygu i chi:

01

Cymryd rhan

“Rydw i wir yn mwynhau dod i’r clwb a gwneud llawer o ffrindiau newydd.”

02

Undod

“Pan oeddwn i’n rhedeg a fy ffrindiau i gyd yn gweiddi – cer amdani Tyler, ti’n gallu wneud e! Roedd yn gwneud i mi fod eisiau dal ati i redeg.”

03

Diogel

“Mae hyn yn bwysig i bobl, bechgyn a fyddai ar y strydoedd fwy na thebyg ar nos Wener, neu mewn helynt efallai am resymau gwirion.”

04

Cefnogol

“Y plentyn sy’n ganolog bob amser – rydyn ni’n gwrando ar y disgyblion ac yn ymateb i beth maen nhw eisiau.”

05

Cystadlu

“Y cystadleuydd mwyaf sydd gennych chi yw chi’ch hun. Felly, mae’n ymwneud â bod yn well nag oeddech chi’r tro diwethaf.”

06

Grymuso

“Maen nhw’n dod at ei gilydd gyda ffrindiau tebyg ac yn dechrau datblygu eu sgiliau ac yn meddwl, ‘a dweud y gwir, rydw i’n gallu gwneud hyn. Mae gen i rywbeth i’w ddangos, mae gen i’r sgiliau yma’.”

07

Cynaliadwy

“Mantais fawr bod yn glwb aml-chwaraeon yw ein bod ni’n gallu pwlio ein hadnoddau. Gan fod gennym ni nifer o bobl yn cymryd rhan mewn mwy nag un gamp o ddydd i ddydd, maen nhw’n hapus i gymryd rhan gyda llawer o bethau.”

08

Cymhelliant

“Roedd yr hyfforddwr yn gymaint o help. ’Wnaeth hi ddim gwneud i mi feddwl nad oeddwn i’n ddigon da na bod rhaid i mi newid unrhyw beth. Fe gefais i’r adnoddau i ddechrau ei gynnwys yn fy mywyd, felly rydw i’n dringo bob wythnos rŵan. Rydw i’n rhedeg tua 5 gwaith yr wythnos ac yn teimlo fy mod i’n gallu rhoi cynnig ar unrhyw beth.”

09

Hygyrch

“Mae croeso i unrhyw un sy’n cerdded drwy’r drws, heb anabledd, anabl, ifanc, hen. Denu pawb i mewn a chynnwys pawb yw’r nod. Mae Clwb Pêl Fasged Aberystwyth yn credu y gall pobl anabl a heb anabledd ymuno a chymryd rhan mewn sesiynau gyda’i gilydd.”

10

Cymuned

“Rydyn ni’n griw cyfeillgar iawn ac yn croesawu pawb, dim ots beth yw eu gallu, i ddod a chwarae a mwynhau cadw’n heini.”

11

Pawb

“Rydyn ni’n cynnal sesiwn nofio ac ni fyddai’r plant sy’n dod yn cael cyfle fel arfer i fod yn rhan o wers prif ffrwd. Mae’n cael ei haddasu i’w hanghenion ac mae wir o help i bobl godi allan a bod yn actif.”

12

Mwynhad

“Mae disgyblion dydyn ni erioed wedi’u gweld o’r blaen – doedden ni ddim yn meddwl y bydden ni’n eu gweld nhw byth ar ôl ysgol – maen nhw’n dod yma’n hapus, ac yn gadael yn hapusach fyth.”

13

Dathlu

“Hwn oedd y tro cyntaf erioed i mi ddringo yn yr awyr agored. Roeddwn i wedi dringo 300 troedfedd i fyny ac yn eistedd yno ar ben fy hun yn edrych ar y machlud ac fe wnes i feddwl ’mod i’n byw y bywyd yma rŵan!”

14

Caled

“Fe wnes i ddod a meddwl, chi’n gwybod be? Dwi’n teimlo’n fwy heini na rhai o’r rhain. Rydw i’n iau, rydw i wedi bod yn y gampfa, ac roeddwn i’n anghywir, oherwydd mae rhai o’r merched yma wedi bod yn dod ers sbel. Maen nhw mor heini, ac egnïol. Doeddwn i heb weld unrhyw beth tebyg o’r blaen!”

15

Ennill

“Roedd ennill Gemau’r Gymanwlad yn uchafbwynt gyrfaol, oherwydd ers bod yn blentyn bach iawn, roeddwn i eisiau ennill y Gymanwlad.”

16

Cynhwysol

“Mae pobl sydd ddim yn deall Saesneg yn gallu dod yma a jyst mwynhau’r gamp.”

17

Balchder

“Rydw i’n meddwl bod dod o Gymru a gallu cystadlu dros fy ngwlad yn foment arbennig iawn i mi.”

18

Hwyl

“Mae wir yn amgylchedd pleserus yn llawn hwyl a dim ond bonws ydi eich bod chi’n dod yn heini ar ôl bod!”

Prif
Prif
Prif
Prif
Prif
Prif
Prif
Prif
Prif
Prif
Prif

Adran 03 – Manteision chwaraeon

Beth rydyn
ni’n ei wybod

am fanteision
Chwaraeon

Swipe Right

Prif

Cenedl gydag iechyd meddwl da

Mae llai o risg o iselder clinigol, pryder a llai o ddefnydd o wasanaethau iechyd meddwl ymhlith rhai o’r manteision mae chwaraeon yn eu sicrhau i iechyd meddwl y genedl.

Tynnir sylw at fanteision chwaraeon i iechyd meddwl yn yr adroddiad Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad a gomisiynwyd gan Chwaraeon Cymru. Mwy i’w weld yma.

Prif

Cenedl o gymunedau

Mae chwaraeon yn helpu i ddod â phobl at ei gilydd. Mae arolygon yn dangos bod y rhai sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon yn teimlo’n llai unig, ac mae gwirfoddoli mewn chwaraeon yn gwella lles yr unigolyn a chydlyniant cymdeithasol.

Tynnir sylw at effaith gwirfoddoli a chyfraniad chwaraeon at gyfalaf cymdeithasol yn yr adroddiad Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad a gomisiynwyd gan Chwaraeon Cymru. Mwy i’w weld yma.

Prif

Cenedl iachach yn gorfforol

Drwy chwaraeon gallwn sicrhau bod pobl yn byw bywydau hirach, iachach a hapusach. Mae atal salwch drwy chwaraeon yn creu gwerth cymdeithasol o £295.17m y flwyddyn o ran canlyniadau iechyd.

Tynnir sylw at fanteision chwaraeon i iechyd corfforol yn yr adroddiad Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad a gomisiynwyd gan Chwaraeon Cymru. Mwy i’w weld yma.

Prif

Diwylliant bywiog

Mae diwylliant chwaraeon yng Nghymru’n allweddol i’n henw da ni yn rhyngwladol. Mae astudiaethau wedi dangos bod Cymru’n cael ei chydnabod am ei dylanwad chwaraeon yn fwy na dangosyddion allweddol eraill.

Tynnir sylw at ddylanwad chwaraeon ar enw da Cymru yn rhyngwladol ym Marometr Pŵer Meddal Cyngor Prydain. Mynediad yma.

Prif

Economi sy’n tyfu

Mae chwaraeon yn creu gwariant sylweddol gan ddefnyddwyr, GVA a chyflogaeth i Gymru. Yn fwy na hynny, mae’r rhain i gyd yn feysydd lle mae gan chwaraeon bwysigrwydd cynyddol.

Tynnir sylw at gyfraniad chwaraeon at economi Cymru yn yr adroddiad Gwerth Economaidd a gomisiynwyd gan Chwaraeon Cymru. Mwy i’w weld yma.

Prif

Poblogaeth â sgiliau

Mae chwaraeon yn helpu i ddatblygu sgiliau arwain, datrys problemau, cyfathrebu a meddwl yn feirniadol sydd eu hangen ar gyfer yr economi fodern. Mae’n haws dysgu sgiliau trosglwyddadwy drwy weithgaredd pleserus.

Prif

Yr anghydbwysedd rhwng y rhywiau

Mae llai o ferched a menywod yn cymryd rhan mewn chwaraeon. Bydd cau’r bwlch hwnnw rhwng y rhywiau a rhoi sylw i’r diffyg hyder sy’n dal i fodoli ymhlith cyfranogwyr benywaidd, yn helpu i sicrhau mantais i bawb.

Mae ffigurau sy’n dangos cyfranogiad merched mewn chwaraeon ar gael yn yr Arolwg ar Chwaraeon Ysgol 2018. Mynediad yma.

Mae ffigurau sy’n dangos cyfranogiad merched mewn chwaraeon ar gael yn yr Arolwg Cenedlaethol ar gyfer Cymru 2017-18. Mynediad yma.

Prif

Y bwlch economaidd-gymdeithasol

Mae tystiolaeth yn dangos bod y rhai o gefndir tlotach yn gwneud llai o funudau o AG yn y cwricwlwm a llai o sesiynau y tu allan i’r ysgol, er eu bod yn gweld mwy o werth yn eu manteision i iechyd.

Mae ffigurau sy’n dangos lefelau cymryd rhan plant o wahanol grwpiau economaidd-gymdeithasol ar gael yn yr Arolwg ar Chwaraeon Ysgol 2018. Mynediad yma.

Prif

Y rhaniad ethnigrwydd

Rydyn ni wedi gweld cynnydd da mewn cau’r rhaniad ethnigrwydd ond mae tystiolaeth yn dal i ddangos bod rhai o grwpiau DALlE yn cymryd rhan mewn chwaraeon yn llai aml.

Mae ffigurau sy’n dangos lefelau cymryd rhan plant o wahanol grwpiau o leiafrifoedd ethnig ar gael yn yr Arolwg ar Chwaraeon Ysgol 2018. Mynediad yma.

Mae ffigurau sy’n dangos lefelau cymryd rhan oedolion o wahanol grwpiau o leiafrifoedd ethnig ar gael yn yr Arolwg Cenedlaethol ar gyfer Cymru 2017-18. Mynediad yma.

Prif

Y cylch bywyd

O’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd; o addysg i’r gweithle, dechrau teulu a thrwy gydol ein bywyd fel oedolyn hyd at ymddeoliad. Rhaid i ddarpariaeth chwaraeon fynd i’r afael â’r cyfnodau allweddol pryd mae pobl yn cymryd llai o ran mewn gweithgarwch.

Tynnir sylw at adegau allweddol pryd mae plant yn rhoi’r gorau i chwaraeon yn yr Arolwg ar Chwaraeon Ysgol 2018. Mynediad yma.

Tynnir sylw at adegau allweddol pryd mae oedolion yn rhoi’r gorau iddi yn yr Arolwg Cenedlaethol ar gyfer Cymru 2017-18. Mynediad yma.

Prif

Anweithgarwch corfforol

Mae 1 o bob 8 plentyn rhwng 4-5 oed dros pwysau neu’n or-dew. Mae’n hanfodol ein bod ni’n cael y genedl i symud ac i fwynhau chwaraeon. Mwy i’w weld yma.

Mae ystadegau gordewdra wedi bod ar gael drwy ymgynghoriad Pwysau Iach, Cymru Iach Llywodraeth Cymru. Mwy i’w weld yma.

Adran 04 – Ein huchelgais

Ein huchelgais

Sefydliad arloesol sy’n galluogi i chwaraeon yng Nghymru ffynnu. Pryd bynnag, ble bynnag, sut bynnag ac am oes.

Rhagoriaeth mewn chwaraeon

Yn aml rydyn ni’n clywed bod chwaraeon wedi gwella lles, hunanhyder a chymhelliant pobl; bod chwaraeon wedi dysgu sgiliau i bobl fel eu bod yn gallu cyflawni eu potensial a chyrraedd eu nodau; bod chwaraeon wedi uno cymunedau ac wedi hybu Cymru i’r byd drwy ragoriaeth ar lwyfan y byd.

Effaith bositif

Mae digon o dystiolaeth i gymeradwyo’r effaith bositif mae cymryd rhan yn ei chael ar ein bywydau ni – wrth gymryd rhan, cefnogi, cyflwyno neu llwyddo – ac mae pobl ysbrydoledig yn gweithio’n ddiflino ledled Cymru er mwyn creu cenedl actif. Dyma pam rydyn ni’n angerddol am ein gwaith a’r bobl rydyn ni’n gweithio â nhw.

Esblygu’n gyson

Mae’r byd rydyn ni’n byw ynddo’n esblygu’n gyson ac er mwyn i chwaraeon barhau i fod yn berthnasol i bobl yng Nghymru, rhaid i ni addasu ein dull o weithredu i’r newidiadau. Fedrwn ni ddim dal ati i wneud yr un peth a disgwyl i bobl ddal ati i weld gwerth mewn chwaraeon. Rhaid i ni arloesi a bod yn ddewr. Rhaid i ni oresgyn rhwystrau ymddangosiadol a gwirioneddol fel bod chwaraeon a byw bywyd actif yn ddewis hygyrch i bawb. Rhaid i ni herio ein hunain i feddwl ac ymddwyn yn wahanol.

Credu mewn newid

Yn Chwaraeon Cymru rydyn ni’n credu mewn newid, rydyn ni’n credu yn ein partneriaid, rydyn ni’n credu ym mhŵer chwaraeon ac rydyn ni’n barod i waeddu am hyn.

Byddwn yn addasu ein diwylliant, yn cadarnhau ein cred ac yn cymell ein hased mwyaf: Pobl.

Adran 05 - Ein pwrpas

Croesawu’r weledigaeth
ar gyfer
chwaraeon yng Nghymru

Prif

Adran 06 - Ein Dull o Weithredu

Ein Dull o Weithredu

Slide right

01 Ein Bywydau Modern

Nid oes modd rhagweld rhesymau pobl dros fod yn actif a thros gymryd rhan mewn chwaraeon bob amser – maent mor amrywiol a chymhleth â bywydau pobl. Nid ydynt yn aros yn eu hunfan; maen nhw’n newid dros amser. Mae angen cyfleoedd amrywiol os ydyn ni am alluogi i chwaraeon yng Nghymru ffynnu.

Mae hyn yn golygu symud oddi wrth feddwl y gallwn ni fod yn sicr am y dyfodol, a chymryd yn ganiataol ein bod yn gwybod sut i gymell pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon a mesur llwyddiant yn seiliedig ar niferoedd yn unig.

02 Gwneud effaith

Yn hytrach, rhaid i ni gasglu tystiolaeth i wella’r hyn rydyn ni’n ei wneud yn barhaus ac i ddangos yr effaith rydyn ni’n ei chreu. Er bod modd gweld a gwerthuso rhai patrymau penodol fel sail i’n gwaith ni, rhaid i ni dderbyn na fydd hyn yn berffaith.

O gydnabod hyn, byddwn yn gweithio mewn ffordd wahanol iawn. Bydd rhaid i ni roi amser i gynnwys, deall a rhannu gwybodaeth fel sail i ddatblygu cyfleoedd hyblyg ac ymatebol sy’n hygyrch ac yn berthnasol i bawb.

03 Rydyn ni’n esblygu

Rhaid i ni ddod yn gyfforddus gydag ansicrwydd a gallu gweithio gyda bwriad clir, yn hytrach na chyfarwyddiadau absoliwt, a rhaid i ni gael ein tywys gan yr egwyddorion canlynol:

Prif
Prif
Prif

Mae rhesymau pobl dros fod yn actif a’r cymhelliant i gymryd rhan mewn chwaraeon yn hynod amrywiol, byth bron yn rhagweladwy ac yn debygol o newid dros amser.

Prif

Rhaid i ni roi pobl wrth galon yr hyn rydyn ni’n ei wneud gan arwain at gyfleoedd amrywiol a hyblyg i fod yn actif a chymryd rhan mewn chwaraeon – symud oddi wrth raglenni ‘un maint yn ffitio pawb’.

Prif

Rhaid i’r cyfleoedd sydd ar gael newid dros amser, gan addasu i’r adborth gan y rhai a fyddai’n hoffi cymryd rhan ynddynt yn ogystal â’r rhai sy’n cymryd rhan eisoes.

Adran 07 – Ein haddewid

Byddwn yn:

Prif

Dysgu gyda'n gilydd

Archwilio, profi ac adolygu’n gyson.

Prif

Cyflawni gyda'n gilydd

Rhannu canlyniadau. Meithrin perthnasoedd agored a gonest. Darparu adborth cadarn. Gwella perfformiad yn gyson.

Prif

Dathlu gyda'n gilydd

Cydnabod ein llwyddiannau ar y cyd drwy bartneriaid effeithiol.

Drwy:

Prif

Gweithredu'n ddidwyll

Deall a pharchu diwylliant a gwerthoedd ein gilydd. Hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Prif

Ychwanegu gwerth

Sicrhau’r gymysgedd orau posib o gefnogaeth, her, buddsoddiad, sgiliau ac arbenigedd i gyflawni ein canlyniadau cyffredin.

Prif

Annog arloesi

Croesawu syniadau a dulliau newydd a chefnogi uchelgais a meddwl yn ffres. Dim ofn teimlo’n anghyfforddus.

Adran 08 – Gweithio mewn partneriaeth

Cysylltu -
Gweithio mewn
partneriaeth

Rydyn ni’n cydnabod yn llawn ac yn gweld gwerth yn y rhwydwaith cadarn a bywiog o bobl a phartneriaid ledled Cymru sydd eisoes yn creu dulliau arloesol o gyflwyno chwaraeon.

Dysgu gyda’n gilydd

Mae gennym ni gyfle cyffrous yn awr i wella a chynyddu’r partneriaethau hyn, dysgu gyda’n gilydd a chanolbwyntio ein hymdrechion ar y cyd i sicrhau’r effaith orau posib.

Partneriaethau sy’n esblygu

Er mwyn galluogi i chwaraeon ffynnu a chreu cenedl gwbl actif, bydd ein dull ni o ddatblygu partneriaethau’n esblygu fel ein bod yn gallu ymateb gyda’n gilydd i anghenion a chymhelliant amrywiol pobl a chymunedau.

Cyfleoedd i gydweithio

Byddwn yn gwahodd sgyrsiau ac yn cefnogi cyfleoedd cydweithredu didwyll. Byddwn yn gweithio i gysylltu a chefnogi rhwydwaith llawer ehangach a mwy amrywiol o sefydliadau, fel ein bod ni, gyda’n gilydd, yn galluogi pawb i fwynhau holl fanteision positif chwaraeon. Pryd bynnag, sut bynnag ac am oes.

Pwrpas cyffredin

Y sbardun allweddol i’n gwaith ni gyda phob partner fydd datblygu pwrpas cyffredin y cytunir arno sy’n cyd-fynd â’n Gweledigaeth ar gyfer Chwaraeon. Mae ein dull ni o weithredu’n amlinellu beth gall bob partner ei ddisgwyl wrth weithio gyda ni. Rydyn ni’n cydnabod y bydd pob partner yn gwneud ei gyfraniad unigryw ei hun ac y bydd gan bob partner wahanol anghenion, a byddwn yn cytuno ar becyn arbennig o gefnogaeth i ddiwallu’r anghenion hynny.

Adran 09 – Buddsoddi adnoddau

Buddsoddi
adnoddau

ar gyfer
y dyfodol

01

Er mwyn i chwaraeon ffynnu bydd rhaid i ni fuddsoddi adnoddau’n wahanol.

Byddwn yn dod â’n hadnoddau ar y cyd at ei gilydd ac yn adnabod cyfleoedd i gryfhau partneriaethau. Byddwn yn gweithio ar y cyd i ddatblygu model adnoddau hyblyg. Bydd hyn yn galluogi i ni ddiwallu anghenion amrywiol partneriaid ac ymateb yn gyflym i heriau newydd.

Byddwn yn defnyddio ein holl adnoddau – buddsoddiad, gwasanaethau a phobl – yn ystyrlon, yn gyfrifol a gyda’r budd gorau posib, gan gadw at yr egwyddorion canlynol:

02

Atal

Cymell gweithredu positif i annog gweithgarwch corfforol rheolaidd ar gyfer pawb, gan gyfrannu at genedl iach, actif, mwy cyfartal a llwyddiannus.

Tymor hir

Annog meddwl, arloesi a risg a reolir yn y dyfodol. Sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr a thymor hir.

Integredig

Partneriaid yn dangos tystiolaeth o effaith a manteision ehangach chwaraeon.

Cydweithredu

Annog gwaith partneriaeth a defnyddio adnoddau ar y cyd.

Cynnwys

Cynnwys amrywiaeth o bobl yn y gwaith o gynllunio a datblygu gwaith.

03

Investment Priority Areas

Prif

04

EIN STRATEGAETH ADNODDAU

Adran 10 – Bwriad strategol

Bwriadau
a chanlyniadau

strategol

Gan groesawu’r egwyddor o integreiddio, rydyn ni wedi datblygu pob un o’n bwriadau strategol gyda chanlyniadau clir. Mae’r canlyniadau sefydliadol hyn, a fydd yn gweithredu fel ein hamcanion llesiant, yn dangos beth allwch chi ddisgwyl ei weld o ganlyniad i’n gwaith ni ar y cyd.

 

Darllenwch Fframwaith Canlyniadau Chwaraeon Cymru yma.

01

Bod yn berson-ganolog

Anghenion a chymhelliant yr unigolyn yn arwain y ddarpariaeth, boed yn dechrau arni, yn anelu am gynnydd neu’n ceisio rhagoriaeth ar lwyfan y byd.

02

Rhoi dechrau gwych i bob person ifanc

Pob person ifanc â sgiliau, hyder a chymhelliant i alluogi iddynt fwynhau a gwneud cynnydd drwy chwaraeon; gan roi iddynt sylfaen i fyw bywyd actif, iach a chyfoethog.

03

Sicrhau bod pawb yn cael cyfle i fod yn actif drwy chwaraeon

Chwaraeon yn gynhwysol ac yn darparu profiad gwych i bawb.

04

Dod â phobl at ei gilydd ar gyfer y tymor hir

Sector chwaraeon cydweithredol, cynaliadwy a llwyddiannus, sy’n cael ei arwain gan wybodaeth a dysgu.

05

Dangos manteision chwaraeon

Gwelir tystiolaeth o effaith chwaraeon ac mae cyrhaeddiad chwaraeon yn cael ei ddeall yn llawn, ei arddangos a’i ddathlu ledled Cymru.

06

Bod yn sefydliad o werth mawr

Chwaraeon Cymru’n sefydliad uchel ei barch, sy’n ceisio gorgyflawni drwy ddarparu gwasanaeth rhagorol drwy ein staff gwerthfawr.

Adran 11 – Gweithio mewn partneriaeth

Nodau llesiant
cenedlaethau’r
dyfodol

Mae ein huchelgais yn cael ei bennu gan y nodau canlynol ar y cyd. Gyda’n gilydd byddwn yn cyfrannu at:

01

Cymru lewyrchus

Ffilm drwy garedigrwydd Cyngor Gemau’r Gymanwlad Cymru

02

Cymru gydnerth

03

Cymru iachach

04

Cymru sy’n fwy cyfartal

05

Cymru o gymunedau cydlynus

06

Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu

07

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Manteision chwaraeon

Gweithio i ddatgloi
manteision

chwaraeon i bawb

Prif